Sonant
Dydd Sadwrn, 17 Hydref, 1:00pm-1:45pm – Cyntedd Galeri
Sian James & Sioned Webb
Daeth Sian James a Sioned Webb at ei gilydd i ffurfio’r ddeuawd Sonant ar gyfer dwy daith ryngwladol ychydig flynyddoedd yn ôl. Ar ôl gwahoddiad i’r ddwy ymweld â Chanada ac Uzbeckistan, plannwyd yr hedyn o berfformio ar ddau biano. Gan i’r ddwy dderbyn hyfforddiant fel myfyrwyr gan Jana Frenklova o Siecoslofacia, roedd eu harddulliau yn gweddu a syniadau am gyfansoddi deunydd wedi’i ysbrydoli gan alawon gwerin yn apelio at y ddwy. Maent ers hynny wedi perfformio yn ogystal fel Sonant yng Ngwyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru a Chanolfan y Mileniwm ac wedi treulio cyfnod cyffrous dan nawdd Cyngor y Celfyddydau Cymru yn datblygu’r ddeuawd gyda cherddorion y band gwerin, Vrï.
Siân yw un o gantorion cyfoes mwyaf blaenllaw Cymru ac un o’n prif aroleswyr ym myd cerddoriaeth draddodiadol. Mae’n canu’r delyn Geltaidd, mae’n bianydd a chyfansoddwraig o fri ac mae ei dawn fel perfformwraig wedi mynd â hi i theatrau a gwyliau cerddorol ledled y byd ac fe’i pherchir fel un o’n prif llysgenhadon cerddorol. Erbyn hyn, rhyddhawyd deg albym o’i gwaith – casgliadau eclectig o ganeuon gwreiddiol a thraddodiadol sy’n cwmpasu ein hemosiynau dyfnaf, o gariad a chwerthin, i golled a’r byd ysbrydol. Mae Siân yn nodedig am ei gallu greddfol i gyfleu emosiwn dwfn yn ei chaneuon a hynny gyda didwylledd ac angerdd. Breintiwyd hi yn 2007 a’i gwneud yn Gymrodyr o Brifysgol Bangor am ei chyfraniad i ddiwylliant Cymru, ac fe’i hurddwyd yn aelod drwy anrhydedd i’r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod.
Derbyniodd Sioned Webb wersi piano yn ifanc iawn a dod yn enillydd cenedlaethol pan oedd hi’n wyth oed. Mae’n cael ei pharchu fel perfformiwr, darlledwr, addysgwr a chyfansoddwr ac wedi perfformio fel pianydd ac ar y delyn deires ar sawl cyfandir. Fel hyfforddwr, mae ei disgyblion piano wedi dod i’r brig mewn cystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol ac mae ar hyn o bryd ar breswyliad yn archifau sain y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth ac yn hyfforddi athrawon ar gyfer y cwricwlwm newydd ar ran Llywodraeth Cymru. Mae ganddi gyfres gerddorol boblogaidd ar y radio ac mae ei cherddoriaeth wedi mynd a hi i garchardai ac ynysoedd pellenig yn ogystal â’r neuadd gyngerdd. Fel awdur, mae hefyd newydd gyhoeddi ei llyfr diweddaraf ar gyfer myfyrwyr a chanddi sêl i gyflwyno alawon traddodiadol Cymru i gylch ehangach.
Mae Sonant ar fin cyhoeddi ei albwm gyntaf yn y misoedd nesaf.