Cystadleuaeth Piano Unawdol Iau

Yn agored i bianyddion a aned ar neu ar ôl 1af o Fedi 2007

Prawf Ceisiadol (dyddiad cau 16.6.2025)

Rhaid i ymgeiswyr gyflwyno recordiad heb ei olygu o gerddoriaeth piano unawdol heb fod yn hwy na 6 munud o hyd.

Bydd uchafswm o dri deg (30) o bianyddion yn cael eu dewis ar gyfer y Prawf Rhagbrofol

Prawf Rhagbrofol: 18fed o Hydref 2025

Rhaglen o gerddoriaeth unawd piano heb fod yn hwy na 10 munud o hyd, i gynnwys un darn a gyfansoddwyd cyn 1828. 

Gwahoddir pum pianydd i gymryd rhan yn y Prawf Terfynol.

Prawf Terfynol: 19eg o Hydref 2025

Rhaglen o gerddoriaeth piano unawdol heb fod yn hwy na 15 munud i gynnwys gwaith a gyfansoddwyd ar ôl 1955. Gellir cynnwys un darn a berfformiwyd yn y Prawf Rhagbrofol.

Rheolau

  • Mae’r holl gystadlaethau ar agor i bianyddion o bob gwlad trwy’r byd.
  • Nid oes modd i bianyddion gystadlu yn y ddwy gystadleuaeth unawdol – rhaid dewis naill a’i yr Unawd Piano Iau neu’r Unawd Piano Hŷn. Ond mae modd i rai sy’n cystadlu yn unawdol gystadlu yn y gystadleuaeth gyfeilio yn ogystal ond bydd angen talu’r ffi gystadlu ar gyfer y ddwy gystadleuaeth.
  • Bydd dyfarniadau’r Beirniaid yn derfynol, ac ni ellir eu herio. Mae’r trefnwyr yn cadw’r hawl i atal gwobrau neu leihau y nifer o gystadleuwyr sy’n ymddangos yn y cylch terfynol y os nad yw’r safon yn ddigon uchel ym marn y mwyafrif o’r Beirniaid.
  • Cyn dyddiad agor yr Ŵyl, tynnir enwau’r cystadleuwyr allan o het gan banel annibynnol er mwyn penderfynu trefn y perfformiadau. Dilynir y drefn hon ym mhob Cylch o’r cystadlaethau.
  • Dylai’r recordiad ar gyfer y gystadlaethau unawdol fod yn recordiad heb ei olygu a dylid ei gyflwyno yn electronig wrth i chi wneud cais drwy ddarparu dolen i ni lawrlwytho neu wrando/gweld y recordiad ar wasanaeth rhannu ffeiliau e.e. WeTransfer, Dropbox, YouTube ayb. (Lle’n berthnasol sicrhewch bod y caniatâd rhannu ffeiliau priodol wedi eu gosod sy’n ein galluogi ni i weld/lawrlwytho eich ffeil).
  •  Dylid cynnwys llythyr o gymeradwyaeth gan diwtor presennol neu fwyaf diweddar yr ymgeisydd. Nid oes angen darparu recordiad ar gyfer y Gystadleuaeth Gyfeilio ond rhaid cynnwys llythyr o gymeradwyaeth efo’r cais.
  • Bydd modd cyflwyno cais rhwng yr 16eg o Ebrill a hanner nos ar yr 16eg o Fehefin 2025.
  • Ffioedd cofrestru: Piano Unawdol Iau: £30; Piano Unawdol Hŷn a Cystadleuaeth Cyfeilio ar y Piano: £40. Mae’r ffioedd yn cynnwys mynediad i holl weithgareddau’r Ŵyl ag eithrio datganiad piano Gwilym Simcock.
  • Ad-deilr 75% o’r ffi gystadlu i’r ymgeiswyr sydd ddim yn cael eu gwahodd i ymddangos ym mhrofion rhagbrofol y gystadleuaeth piano unawdol hŷn, piano unawdol iau neu’r gystadleuaeth gyfeilio.
  • Bydd ymgeiswyr sy’n cael eu dewis i ymddangos yn y profion rhagbrofol yn cael gwybod dim hwyrach na’r 1af o Orffennaf 2025.
  • Os yw ymgeisydd yn tynnu allan o’r gystadleuaeth am unrhyw reswm ni ad-delir y ffi gofrestru.
  • Noder y bydd perfformiadau y cylch terfynol yn cael eu recordio.

Gwobrau

  • Gwobr Gyntaf: £700
  • Ail wobr: £350
  • Tri ymgeisydd terfynol arall: £150 yr un
  • Gwobr arbennig i’r pianydd mwyaf addawol na dderbyniwyd i’r Prawf Terfynol: £100