Cystadleuaeth Piano Unawdol Hŷn
Yn agored i bianyddion a aned ar, neu ar ôl 1af o Fedi 1999
Prawf Ceisiadol (dyddiad cau 16.6.2025)
Rhaid i ymgeiswyr gyflwyno recordiad heb ei olygu o gerddoriaeth piano unawdol heb fod yn hwy na 8 munud o hyd.
Bydd uchafswm o ugain (20) o bianyddion yn cael eu dewis ar gyfer y Prawf Rhagbrofol.
Prawf Rhagbrofol: 19eg o Hydref 2025
Rhaglen o gerddoriaeth piano unawdol heb fod yn hwy na 15 munud, i gynnwys:
a. Gwaith (symudiad sengl neu ddetholiad o symudiadau) a gyfansoddwyd cyn 1828
b. Astudiaeth / Étude gan Chopin, Liszt, Debussy, Scriabin, Rachmaninov, Ligeti, Kapustin, neu Dusapin
c. Gwaith a gyfansoddwyd ar ôl 1955
Gwahoddir pedwar pianydd i gymryd rhan yn y Prawf Terfynol.
Prawf Terfynol: 20fed o Hydref 2025
Rhaglen o gerddoriaeth piano unawdol heb fod yn hwy na 25 munud, i gynnwys gwaith cyflawn neu ddetholiad o symudiadau gan Maurice Ravel.
Ni cheir ailadrodd unrhyw waith a gyflawnir yn y Prawf Rhagbrofol
Rheolau
- Mae’r holl gystadlaethau ar agor i bianyddion o bob gwlad trwy’r byd.
- Nid oes modd i bianyddion gystadlu yn y ddwy gystadleuaeth unawdol – rhaid dewis naill a’i yr Unawd Piano Iau neu’r Unawd Piano Hŷn. Ond mae modd i rai sy’n cystadlu yn unawdol gystadlu yn y gystadleuaeth gyfeilio yn ogystal ond bydd angen talu’r ffi gystadlu ar gyfer y ddwy gystadleuaeth.
- Bydd dyfarniadau’r Beirniaid yn derfynol, ac ni ellir eu herio. Mae’r trefnwyr yn cadw’r hawl i atal gwobrau neu leihau y nifer o gystadleuwyr sy’n ymddangos yn y cylch terfynol y os nad yw’r safon yn ddigon uchel ym marn y mwyafrif o’r Beirniaid.
- Cyn dyddiad agor yr Ŵyl, tynnir enwau’r cystadleuwyr allan o het gan banel annibynnol er mwyn penderfynu trefn y perfformiadau. Dilynir y drefn hon ym mhob Cylch o’r cystadlaethau.
- Dylai’r recordiad ar gyfer y gystadlaethau unawdol fod yn recordiad heb ei olygu a dylid ei gyflwyno yn electronig wrth i chi wneud cais drwy ddarparu dolen i ni lawrlwytho neu wrando/gweld y recordiad ar wasanaeth rhannu ffeiliau e.e. WeTransfer, Dropbox, YouTube ayb. (Lle’n berthnasol sicrhewch bod y caniatâd rhannu ffeiliau priodol wedi eu gosod sy’n ein galluogi ni i weld/lawrlwytho eich ffeil).
- Dylid cynnwys llythyr o gymeradwyaeth gan diwtor presennol neu fwyaf diweddar yr ymgeisydd. Nid oes angen darparu recordiad ar gyfer y Gystadleuaeth Gyfeilio ond rhaid cynnwys llythyr o gymeradwyaeth efo’r cais.
- Bydd modd cyflwyno cais rhwng yr 16eg o Ebrill a hanner nos ar yr 16eg o Fehefin 2025.
- Ffioedd cofrestru: Piano Unawdol Iau: £30; Piano Unawdol Hŷn a Cystadleuaeth Cyfeilio ar y Piano: £40. Mae’r ffioedd yn cynnwys mynediad i holl weithgareddau’r Ŵyl ag eithrio datganiad piano Gwilym Simcock.
- Ad-deilr 75% o’r ffi gystadlu i’r ymgeiswyr sydd ddim yn cael eu gwahodd i ymddangos ym mhrofion rhagbrofol y gystadleuaeth piano unawdol hŷn, piano unawdol iau neu’r gystadleuaeth gyfeilio.
- Bydd ymgeiswyr sy’n cael eu dewis i ymddangos yn y profion rhagbrofol yn cael gwybod dim hwyrach na’r 1af o Orffennaf 2025.
- Os yw ymgeisydd yn tynnu allan o’r gystadleuaeth am unrhyw reswm ni ad-delir y ffi gofrestru.
- Noder y bydd perfformiadau y cylch terfynol yn cael eu recordio.
Gwobrau
- Gwobr Gyntaf: £3000
- Ail Wobr: £1000
- Dau ymgeisydd terfynol arall: £350 yr un
- Gwobr arbennig am y perfformiad gorau o waith gan Maurice Ravel: £300
- Gwobr arbennig am y perfformiad gorau o waith a gyfansoddwyd ar ôl 1955: £300