Cyngerdd Comisiynau’r Ŵyl & Beethoven Archduke Trio
16 Hydref 2021, 7:30pm, Cyngerdd Rhithiol
Rhan 1: Gweithiau Comisiwn yr Ŵyl
Joseph Davies – ap Huw Sampler
Bethan Morgan-Williams – Cusan Aderyn
Pwyll ap Sion – Die verrückten mädchen von
Sarah Lianne Lewis – Clychau
Rhan 2: Beethoven – Archduke Trio
Artistiaid: Sara Trickey (ffidil), Sebastian Van Kuijk (sielo), Iwan Llewelyn-Jones (piano), Alys Roberts (soprano)
Linc i’w wylio ar gael yma o 7.30pm nos Sadwrn, 16 Medi 2021
Yn hytrach na gwerthu tocynnau, gofynnwn am roddion os gwelwch yn dda.
Iwan Llewelyn-Jones (piano)
Sara Trickey (ffidil)
Sebastian Van Kuijk (sielo)
Alys Mererid Roberts (soprano)
Mae Alys yn soprano sy’n hannu yn wreiddiol o Roslan ger Cricieth. Ennillodd Alys ysgoloriaeth yr Is-Ganghellor i astudio ym Mhrifysgol Durham cyn mynd yn ei blaen i astudio cwrs Meistr mewn canu yn Academi Frenhinol Gerdd Llundain ac yna ymuno â’r Ysgol Opera. Mae wedi canu rhannau Chocholka a Pepík (The Cunning Little Vixen), Edith (The Pirates of Penzance), Annina (La traviata), Tweedledee (Alice’s Adventures in Wonderland, Will Todd) a Tiny Tim / Fan (A Christmas Carol, Will Todd) gyda Opera Holland Park, Polly Peachum (The Beggar’s Opera) a Shepherd Boy (Tosca) gyda Opera Canolbarth Cymru, Yum Yum (The Mikado) Josephine (H.M.S. Pinafore) gyda Charles Court Opera, Adina (L’elisir d’amore) gyda Opera’r Ddraig, Lled-Gorws (Gair ar Gnawd, Pwyll ap Siôn) a’r Awen (Hedd Wyn, Stephen McNeff) gyda Opera Cenedlaethol Cymru, ac wedi eilio rhan Slave (Salome) yn English National Opera.
Cyfansoddwyr – Composers
Joseph Davies
Yn enedigol o Gaerdydd, mae’r cyfansoddwr Joseph Davies bellach wedi ymgartrefu yn Llundain. Mae wedi ei ddisgrifio fel “one of the brightest of rising stars” (Bernard Clarke, RTÉ), ac mae ei gerddoriaeth wedi ei berfformio a’i ddarlledu ledled Ewrop ac UDA. Ymhlith y comisiynau mae sawl darn ar gyfer Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Mae’n ddarlithiwr cyfansoddi yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ers 2013 ac mae ei waith wedi ei gyhoeddi gan Birdsong a Chester Music.
Bethan Morgan-Williams
Mae Bethan Morgan-Williams (1992-) yn gyfansoddwr sy’n ysgrifennu cerddoriaeth hynod-gywrain a rhythmig. Disgrifiwyd
fel “rhyfeddol o oblique ac aneglur” [5against4] wrth gael ei “wreiddio mewn rhywbeth hynafol a gwerin” [The Telegraph],
Mae cerddoriaeth Bethan yn canfod cymhelliant yn yr apogee o berfformiad cerddorol.
Pwyll ap Siôn
Mae Pwyll ap Siôn yn gyfansoddwr, cerddolegwr ac Athro yn Adran Gerddoriaeth Prifysgol Bangor. Mae ei gerddoriaeth wedi derbyn perfformiadau gan rai o gerddorion amlycaf Cymru, gan gynnwys Bryn Terfel, Llŷr Williams, Iwan Llewelyn-Jones ac Elin Manahan Thomas. Perfformiwyd ei opera gymunedol Gair ar Gnawd yn Theatre Ffwrnes, Llanelli mewn cynhyrchiad gan Opera Genedlaathol Cymru i libreto gan Menna Elfyn yn 2015. Fe gafodd ei gylch caneuon Chaotic Angels, gosodiad o gerddi gan Gwyneth Lewis, berfformiad cyntaf gan y soprano Celine Forrest a cherddorfa WNO o dan Lothar Koenigs yn Neuadd Dewi Sant yn 2016. Mae wedi ysgrifennu a golygu nifer o lyfrau ac yn cyfrannu’n reolaidd i gylchgrawn Gramophone.
Sarah Lianne Lewis
Mae Sarah Lianne Lewis yn gyfansoddwraig Cymreig. Mae ei cherddoriaeth yn o feiddgar a dychmygus, ac yn archwilio’r byd naturiol a’n bodolaeth ddynol, wedi’i lywio gan safbwynt benywaidd anabl. Ar hyn o bryd mae hi’n Gyfansoddwr Cysylltiedig â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Cyfansoddwr RPS 2021-22, a Chymrawd Classical:NEXT 2022.