Cyngerdd Carnifal yr Anifeiliaid gan Saint-Saëns
17 Hydref 2021, 6:30pm, Cyngerdd Rhithiol
Linc i’w wylio ar gael yma o 6.30pm nos Sul, 17 Hydref 2021
Yn hytrach na gwerthu tocynnau, gofynnwn am roddion os gwelwch yn dda.
Mae’r cyngerdd yma yn ran o brosiect addysgiadol yr Wyl mewn partneriaeth gyda un o noddwyr yr Wyl, Roberts of Portdinorwic, wedi ei ariannu gan Gynllun Culture Step, Celfyddydau a Busnes Cymru.
Glian Llwyd (piano)
Teleri-Siân (piano)
Wedi graddio o Goleg Cerdd Frenhinol y Gogledd ym Manceinion, mae Teleri-Siân wedi perfformio fel unawdydd dros Brydain, Ewrop, yn Hong Kong ac America. Dros y blynyddoedd diwethaf mae hi wedi datblygu diddordeb mewn gweithiau newydd i’r piano. Uchafbwynt diweddar – cyn y pandemig – oedd rhoi’r perfformiad cyntaf o Gonsierto Piano Nicholas Simpson. Mae hi’n dysgu ym Mhrifysgol Bangor, Junior RNCM a Chanolfan Gerdd William Mathias, lle buodd yn ran o sefydlu canghennau Dinbych a Rhuthun. Mae Teleri-Siân hefyd yn ieithydd. Mae ganddi radd Meistr mewn Ieithoedd Modern ac yn siarad Cymraeg, Saesneg, Ffrangeg ac Eidaleg. Mae hi’n byw yn Sir Ddinbych gyda’i gwr a’u plant, Llion a Mali.