Cystadleuaeth Cyfeilio ar y Piano

(Unrhyw oedran)

Yn dilyn y dyddiad cau i ymgeisio bydd hyd at 20 cyfeilydd yn cael eu gwahodd i’r prawf rhagbrofol.

Bydd yr Ŵyl yn trefnu unawdwyr lleisiol ac offerynnol ar gyfer y gystadleuaeth gyfeilio ac nid oes caniatad i gystadleuydd ddod ag unawdwyr eu hunain efo nhw. Bydd ymarfer byr efo’r unawdwyr ar gyfer y cyfeilyddion cyn perfformio.

Prawf Rhagbrofol: 18fed neu 19eg o Hydref 2025 

Gwaith gosod: Maurice Ravel: ‘Piece en forme d’habanera’ i obo a phiano  ynghyd ag un dewis o gategori A ac un cyfres o ganeuon o gategori B 

A.     Offerynnol: Obo a piano 
1. Gabriel Grovlez: Sarabande ac Allegro
2. Paul Pierne: Fantaisie Pastorale
3. Eugène Bozza: Fantasie Italienne  

B.     Llais: Soprano a piano 

Un o’r grwpiau canlynol o ganeuon:
1. Lily Boulanger: ‘Elle etait descendu’ ac Un poéte disait’ (y ddwy gân yn E fwyaf)
2. Cécile Chaminade: ‘Reve d’un soir’ (F fwyaf) a ‘L’Absente’ (C fwyaf)
3. Amy Beach: ‘Ah! Cariad ond Diwrnod’ a ‘Y Flwyddyn yn y Gwanwyn’ o’r ‘Three Browning Songs’ Op. 44 

Gwahoddir pedwar cyfeilydd i gymryd rhan yn y Prawf Terfynol.

Prawf Terfynol: 20fed o Hydref 2025

Rhaglen offerynnol a lleisiol – cyfeilyddion i ddewis un gwaith o gategori A ynghŷd â gweithiau gosod categori B a C:  

A. Y symudiad agoriadol o un o’r Sonatas canlynol ar gyder Ffidil a Phiano:

1. Gabriel Fauré: Op. 13
2. Francis Poulenc: Sonata
3. Johannes Brahms: Sonata  Op. 108  

B. Maurice Ravel:  ‘Don Quichotte à Dulcinée’ (cyweirnod gwreiddiol) 

C. Cân Gymraeg: rhoddir y wybodaeth a’r copiau i’r cyfeilyddion ar ôl cyhoeddi canlyniad y Cylch Rhagbrofol.

Rheolau

  • Mae’r holl gystadlaethau ar agor i bianyddion o bob gwlad trwy’r byd.
  • Nid oes modd i bianyddion gystadlu yn y ddwy gystadleuaeth unawdol – rhaid dewis naill a’i yr Unawd Piano Iau neu’r Unawd Piano Hŷn. Ond mae modd i rai sy’n cystadlu yn unawdol gystadlu yn y gystadleuaeth gyfeilio yn ogystal ond bydd angen talu’r ffi gystadlu ar gyfer y ddwy gystadleuaeth.
  • Bydd dyfarniadau’r Beirniaid yn derfynol, ac ni ellir eu herio. Mae’r trefnwyr yn cadw’r hawl i atal gwobrau neu leihau y nifer o gystadleuwyr sy’n ymddangos yn y cylch terfynol y os nad yw’r safon yn ddigon uchel ym marn y mwyafrif o’r Beirniaid.
  • Cyn dyddiad agor yr Ŵyl, tynnir enwau’r cystadleuwyr allan o het gan banel annibynnol er mwyn penderfynu trefn y perfformiadau. Dilynir y drefn hon ym mhob Cylch o’r cystadlaethau.
  • Dylai’r recordiad ar gyfer y gystadlaethau unawdol fod yn recordiad heb ei olygu a dylid ei gyflwyno yn electronig wrth i chi wneud cais drwy ddarparu dolen i ni lawrlwytho neu wrando/gweld y recordiad ar wasanaeth rhannu ffeiliau e.e. WeTransfer, Dropbox, YouTube ayb. (Lle’n berthnasol sicrhewch bod y caniatâd rhannu ffeiliau priodol wedi eu gosod sy’n ein galluogi ni i weld/lawrlwytho eich ffeil).
  •  Dylid cynnwys llythyr o gymeradwyaeth gan diwtor presennol neu fwyaf diweddar yr ymgeisydd. Nid oes angen darparu recordiad ar gyfer y Gystadleuaeth Gyfeilio ond rhaid cynnwys llythyr o gymeradwyaeth efo’r cais.
  • Bydd modd cyflwyno cais rhwng yr 16eg o Ebrill a hanner nos ar yr 16eg o Fehefin 2025.
  • Ffioedd cofrestru: Piano Unawdol Iau: £30; Piano Unawdol Hŷn a Cystadleuaeth Cyfeilio ar y Piano: £40. Mae’r ffioedd yn cynnwys mynediad i holl weithgareddau’r Ŵyl ag eithrio datganiad piano Gwilym Simcock.
  • Ad-deilr 75% o’r ffi gystadlu i’r ymgeiswyr sydd ddim yn cael eu gwahodd i ymddangos ym mhrofion rhagbrofol y gystadleuaeth piano unawdol hŷn, piano unawdol iau neu’r gystadleuaeth gyfeilio.
  • Bydd ymgeiswyr sy’n cael eu dewis i ymddangos yn y profion rhagbrofol yn cael gwybod dim hwyrach na’r 1af o Orffennaf 2025.
  • Os yw ymgeisydd yn tynnu allan o’r gystadleuaeth am unrhyw reswm ni ad-delir y ffi gofrestru.
  • Noder y bydd perfformiadau y cylch terfynol yn cael eu recordio.

Gwobrau

• Gwobr Gyntaf: £1,500
• Ail Wobr:£700
• Dau ymgeisydd terfynol arall: £250 yr un
• Gwobr arbennig am y perfformiad gorau o gân Gymraeg: £100