Cystadleuaeth Cyfeilio ar y Piano
(Dim cyfyngiad oedran)
Canlyniadau
Cydradd 1af – Ellis Thomas & Edward Leung – £1,050 yr un rhoddedig gan cyn-athrawon cerdd and the R. Davy Jones Trust
Ymgeiswyr Cylch Terfynol – Julia Klimek & Yiwei Ji – £250 yr un rhoddedig gan Catrin Hobson
Perfformiad gorau o’r gân Cymreig: Yiwei Ji – £100 rhoddedig gan David a Margaret Thompson
Alys Roberts (soprano), Sara Trickey (ffidil), Ryan Vaughan Davies (tenor), Richard Craig (ffiwt)
Beirniaid: Simon Phillippo & Harvey Davies – Richard Craig (cylch terfynol yn unig)
Prawf Rhagbrofol
16/17 Hydref 2021 – Theatr, Galeri
13:00 – 16:30 (16.10.2021) & 13:00 – 14:45 (17.10.2021)
Richard Craig (ffliwt) & Ryan Vaughan Thomas (tenor)
Cystadleuwyr i ddarparu un gwaith o adrannau (a) a (b).
Adran A: Gwaith i ffliwt a phiano o’r rhestr canlynol:
- Francis Poulenc: ‘Cantilena’ a ‘Presto giocoso’ (Symudiadau 2 a 3) o’r Sonata i ffliwt a phiano
- Bohuslav Martinů: ‘Allegro moderato’ (Symudiad 1) o Sonata Rhif 1, H. 306
- Charles-Marie Widor: ‘Moderato’ a ‘Scherzo’ (Symudiad 1 and 2) from Suite Op. 34
Adran B: Dwy gân ar gyfer tenor a phiano a ddewisir o un o’r rhestri canlynol:
- Clara Schumann: ‘Liebst du um Schönheit¢ 12 No. 4 (D feddalnod fwyaf) a ‘Die Lorelei¢ (G leiaf)
- Fanny Mendelssohn: ‘Die Mainacht¢ 9 No. 6 (E feddalnod fwyaf) a ‘Frühling¢ Op. 7 No. 3 (F sharp fwyaf)
- Morfudd Llwyn Owen: ‘Gwanwyn¢ (F fwyaf) a Grace Williams: ‘Watching the Wheat/Bugeilio’r Gwenith Gwyn’ (E fwyaf)
Os ydych yn cael anhawster i gael gafael ar unrhyw un o’r darnau prawf uchod cysylltwch efo’r swyddfa 01286 685256
Gwahoddir pedwar cyfeilydd i gymryd rhan yn y prawf terfynol.
Dim tâl mynediad, dewch draw i wylio.
Prawf Terfynol
18 Hydref 2021 – Theatr, Galeri
14:30 – 16:30
17:00 : Cyflwyno Gwobrau
Alys Roberts (soprano) & Sara Trickey (ffidil)
Cystadleuwyr i ddarparu un gwaith o adrannau (a), (b) a (c).
Adran A: Y symudiad agoriadol o un o’r Sonatas canlynol ar gyfer piano a ffidil gan Ludwig van Beethoven:
- ‘Allegro vivace’ o’r Sonata yn A fwyaf Op. 12 Rhif 2
- ‘Presto’ o’r Sonata yn A leiaf Op. 23
- ‘Allegro assai’ o’r Sonata yn G fwyaf Op. 30 Rhif 3
Adran B: Dwy gân ar gyfer soprano a phiano a ddewisir o un o’r rhestri canlynol:
- Gabriel Fauré: ‘Fleur jetée’ Op. 39 Rhif 2 (F leiaf), a ‘En sourdine’ Op. 58 Rhif 2 (G meddalnod fwyaf)
- Frank Bridge: ‘Come to me in my dreams’, H. 71 (E meddalnod fwyaf) a ‘Love went a-riding’, H. 114 (G meddalnod fwyaf)
- Samuel Barber: ‘St Ita’s Vision’ a ‘The Heavenly Banquet’ o’r Hermit Songs Op. 29
Adran C: Cyfeiliant i Gân Gymraeg ar fyr rybudd (y gerddoriaeth i’w gyflwyno i’r cystadleuwyr ar ddiwedd canlyniad y Prawf Rhagbrofol).
Tocynnau i Wylio’r Cylch Terfynol
Gwybodaeth Ychwanegol i’r Cyfeilyddion
Cyweirnodau y Caneuon:
Cylch Rhagbrofol – Dylai’r ymgeiswyr baratoi’r cyfeiliant ar gyfer Tenor/Llais Uchel.
Cylch Terfynol – Dylai’r ymgeiswyr baratoi’r cyfeiliant ar gyfer Soprano/Llais Uchel.
Darperir y cantorion i’r gystadleuaeth yma gan yr Ŵyl Biano a bydd cyfle i gael ymarfer byr gyda’r unawdydd yn syth cyn cystadlu.
Am unrhyw wybodaeth bellach, cysylltwch â swyddfa trefnwyr yr Ŵyl trwy ebost os gwelwch yn dda – swyddfa@gwylbiano.co.uk
Artistiaid
Ryan Vaughan Davies (Tenor)
Mae’r tenor Ryan Vaughan Davies yn astudio yn yr Academi Cerdd Frenhinol yn Llundain gyda Susan Waters. Yn ifanc fe ddangosodd diddordeb mewn perfformio a chanu clasurol gan gystadlu mewn eisteddfodau a chanu mewn cyngherddau. Yn 2019 fe enillodd Y ruban las yn Eisteddfod Gaerdydd.
Ers gwneud ei début operatig fel yr ail offeiriad yn gynhyrchiad Gŵyl Opera Longborough o Die Zauberflöte, Mae Ryan wedi mynd ymlaen i weithio gyda Gŵyl Ryngwladol Buxton, Gŵyl Y Grange a Garsington Opera. Yn ddiweddar fu’n perfformio rhan Beppe yn Pagliacci gyda Iford Arts. Mae o ar hyn o bryd yn perfformio rolau Torquemada yn L’heure Espagnole a Gherardo yn Gianni Schicchi.
Mewn cyngherddau mae wedi perfformio mewn llawer o leoliadau fwyaf enwog y DU gan gynnwys Neuadd yr ŵyl frenhinol a Neuadd Frenhinol ALbert yn ogystal â pherfformiadau diweddar yn theatr y Minack , Penzance. Mae’n aelod o ‘extra chorus’ Y tŷ Opera Brenhinol (Covent Garden).
Alys Roberts (Soprano)
Sara Trickey (Ffidil)
Mae Sara Trickey yn mwynhau gyrfa gyffrous ac amrywiol fel unawdydd feiolin a cherddor siambr. Yn enwog am ei pherfformiadau “fiery and passionate” (The Strad) a “beautifully refined tone” (Musical Opinion), mae hi’n perfformio mewn nifer o Ŵyliau blaenllaw y DU, gan gynnwys y Presteigne, Alwyn, Oxford May Music, Efrog, Gŵyliau Cerddoriaeth Siambr Ashburton a Wye Valley. Mae hi’n chwarae’n rheolaidd gyda’r pianydd Dan Tong ac mae wedi recordio’r Schubert Sonatinas i ganmoliaeth uchel iawn (“Irresistible!” – Barry Millington). Rhyddhawyd CD o Fauré a David Matthews yn ddiweddar gan Deux-Elles. Gwnaeth recordiad o berfformiad byd 1af o sonatâu ffidil William Mathias gydag Iwan Llewelyn Jones.
Richard Craig (Ffliwt)
Ganed Richard Craig yn Glasgow ac astudiodd y ffliwt yn Conservatoire Brenhinol yr Alban gyda Richard Blake. Parhaodd â’i astudiaethau gyda Mario Caroli yn y Conservatoire de Strasbourg. Mae Richard wedi perfformio gydag ensembles megis Musikfabrik a Klangforum Wien, hefyd gyda grwpiau yn y DU fel Explore Ensemble, Riot Ensemble, Uproar and Octandre. Fel artist recordio mae wedi rhyddhau dwy ddisg unigol (INWARD a VALE) ar gyfer Metier, a nifer o recordiadau cerddoriaeth siambr – y mwyaf diweddar oedd disg o bortread o weithiau siambr y cyfansoddwr John Croft. Roedd Richard yn ddarlithydd ac yn Bennaeth Perfformiad ym Mhrifysgol Bangor, Cymru, rhwng 2015 – 2019. Ar hyn o bryd mae’n byw yn Glasgow, yr Alban.
Rheolau
- Mae’r holl gystadlaethau ar agor i bianyddion o bob gwlad trwy’r byd.
- Nid oes modd i bianyddion gystadlu yn y ddwy gystadleuaeth unawdol – rhaid dewis naill a’i yr Unawd Piano Iau neu’r Unawd Piano Hŷn. Ond mae modd i rai sy’n cystadlu yn unawdol gystadlu yn y gystadleuaeth gyfeilio yn ogystal ond bydd angen talu’r ffi gystadlu ar gyfer y ddwy gystadleuaeth.
- Bydd dyfarniadau’r Beirniaid yn derfynol, ac ni ellir eu herio. Mae’r trefnwyr yn cadw’r hawl i atal gwobrau neu leihau y nifer o gystadleuwyr sy’n ymddangos yn y cylch terfynol y os nad yw’r safon yn ddigon uchel ym marn y mwyafrif o’r Beirniaid.
- Cyn dyddiad agor yr Ŵyl, tynnir enwau’r cystadleuwyr allan o het gan banel annibynnol er mwyn penderfynu trefn y perfformiadau. Dilynir y drefn hon ym mhob Cylch o’r cystadlaethau.
- Dylai’r recordiad ar gyfer y gystadlaethau unawdol fod yn recordiad heb ei olygu a dylid ei gyflwyno yn electronig wrth i chi wneud cais drwy ddarparu dolen i ni lawrlwytho neu wrando/gweld y recordiad ar wasanaeth rhannu ffeiliau e.e. WeTransfer, Dropbox, YouTube ayb. (Lle’n berthnasol sicrhewch bod y caniatâd rhannu ffeiliau priodol wedi eu gosod sy’n ein galluogi ni i weld/lawrlwytho eich ffeil).
- Dylid cynnwys llythyr o gymeradwyaeth gan diwtor presennol neu fwyaf diweddar yr ymgeisydd. Nid oes angen darparu recordiad ar gyfer y Gystadleuaeth Gyfeilio ond rhaid cynnwys llythyr o gymeradwyaeth efo’r cais.
- Bydd modd ymgeisio o 1 Hydref 2019 ymlaen. Dyddiad cau ar gyfer ffurflenni cais a recordiadau fydd 17 Ionawr 2021 am 6pm.
- Ffioedd cofrestru: Piano Unawdol Iau: £30; Piano Unawdol Hŷn a Cystadleuaeth Cyfeilio ar y Piano: £40. Mae’r ffioedd yn cynnwys mynediad i holl weithgareddau’r Ŵyl ag eithrio datganiad piano John Lill.
- Ad-deilr 75% o’r ffi gystadlu i’r ymgeiswyr sydd ddim yn cael eu gwahodd i ymddangos ym mhrofion rhagbrofol y cystadlaethau unawdol piano hŷn ac iau.
- Bydd ymgeiswyr sy’n cael eu dewis i ymddangos yn y profion rhagbrofol yn cael gwybod dim hwyrach na’r 15 Gorffennaf 2021.
- Os yw ymgeisydd yn tynnu allan o’r gystadleuaeth am unrhyw reswm ni ad-delir y ffi gofrestru.
Gwobrau
- Y Wobr Gyntaf: £1500
- Yr Ail Wobr: £600
- 2 ymgeisydd terfynol arall: £250 yr un
- Gwobr am y perfformiad gorau o’r Gân Gymraeg (Prawf Terfynol): £100