Cawsom Ddiwrnod Piano penigamp ym Mhrifysgol Bangor ganol mis Tachwedd gyda dros 100 o berfformiadau. Daeth y pianyddion blaenllaw Emyr Roberts, Evgenia Startseva a Gareth Owen i wrando a rhoi adborth i’r perfformwyr.
Cawsom sesiwn Holi ac Ateb diddorol a goleuedig iawn yn ystod y prynhawn gan orffen y diwrnod gyda cyngerdd gan y pianyddion, o bob oed a safon, wnaeth sefyll allan yn ystod y dydd.