Cyngerdd Tiwtoriaid Canolfan Gerdd William Mathias

Published on 21 Rhagfyr 2019

Ar ddechrau Tachwedd, ymunodd wyth o diwtoriaid piano Canolfan Gerdd William Mathias â’r pianydd cyngerdd rhyngwladol Iwan Llewelyn-Jones, Cyfarwyddwr Artistig Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru, ar gyfer cyngerdd arbennig i godi arian tuag at noddi gwobr gystadleuaeth yn yr Ŵyl Biano fydd yn cael ei chynnal flwyddyn nesaf.

Yn ôl Iwan Llewelyn-Jones:

“Rydym i gyd yn ffrindiau a’r peth braf am wneud rhywbeth fel hyn drwy ddod at ein gilydd fel ensemble, yw ei fod yn gymaint o hwyl. Does dim rhaid i chi siarad, dim ond chwarae. Rydych chi’n gadael i’r gerddoriaeth wneud y siarad drosoch chi.

“Mi wnaethon ni gynnal cyngerdd tebyg yn 2015 i lansio Gŵyl 2016. Roedd rhywfaint o nerfusrwydd ymlaen llaw, wrth gwrs, gan nad oes gan rai o’r tiwtoriaid yr amser i berfformio’n gyhoeddus yn aml ond roedden nhw wrth eu boddau, roedd yn brofiad gwefreiddiol i ni i gyd. Dyma yw hanfod y peth.”

Cynhaliwyd y digwyddiad cymunedol hwyliog yn Theatr Galeri Caernarfon. Roedd y rhaglen yn cynnwys amrywiaeth eang o glasuron poblogaidd – ‘Carnifal yr Anifeiliaid’ (Saint-Saëns), ‘En bateau’ (Debussy), Symffoni Rhif 5 (Beethoven) a’r ‘Nutcracker Suite’ gan Tchaikovsky – ac yn cael eu perfformio ar ddwy biano grand gan Glian Llwyd, Nia Davies-Williams, Steven Evans, Ann Peters Jones, Helen Owen, Hawys Price, Teleri-Siân, Siân Wheway ac Iwan.

“Mae hwn yn un o ddau ddigwyddiad lansio sy’n dod â’r Ganolfan Gerdd a’r bobl sy’n gweithio ynddi at ei gilydd i arddangos eu doniau,” meddai Iwan.

“Rhoddais llawer o feddwl i’r detholiad o gerddoriaeth gan geisio ei wneud mor ddeniadol â phosib. Roedd y pianyddion wedi rhoi o’u hamser eu hunain am ddim ar gyfer y cyngerdd hwn ac roedd yn hyfryd gweld y lle’n llawn.”

Mae Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru, a drefnir gan Ganolfan Gerdd William Mathias, yn cael ei chynnal rhwng 1-4 Mai 2020 a bydd yn canolbwyntio ar bedwar maes allweddol, sef perfformio, cerddoriaeth newydd, cystadlu ac addysgu.

Bydd Gŵyl 2020 yn talu gwrogaeth i Ludwig van Beethoven a’i etifeddiaeth bianyddol fel rhan o ddathliadau sy’n nodi 250 mlynedd ers ei eni.

I archebu tocynnau ar gyfer Gŵyl Biano Rhyngwladol Cymru ewch i: www.galericaernarfon.com neu ffoniwch 01286 685 222.

Dilynwch ni!

Rhagor o Erthyglau

Penddelw Beethoven mwyaf y byd yn syfrdanu

Penddelw Beethoven mwyaf y byd yn syfrdanu

Mae penddelw enfawr o Beethoven yn syfrdanu ymwelwyr â chanolfan gelfyddydau - ac yn anelu i dorri record. Credir mai’r cerflun pȃpier-maché a phren enfawr yn Galeri yng Nghaernarfon yw’r cerflun mwyaf yn y byd o ben y cyfansoddwr nodedig. Gwnaed y model enfawr, sy’n...

Cyngerdd Diwrnod Piano

Cyngerdd Diwrnod Piano

Dyma ddolen i weld cyngerdd sy'n cynnwys rhai o uchafbwyntiau ein Diwrnod Piano a gynhaliwyd yn ddiweddar.